Comedy about a father who disguises himself as a nanny so he can see his children after his wife files for divorce and wins custody.
Certificate
Duration120 mins
Review by
Os ydych wedi diflasu ar yr hen ffilmiau dwl mae eich rhieni yn eich gorfodi i wylio mae'n raid gwneud rhywbeth amdani! Gwyliwch Mrs Doubtfire ac rwy'n gwarantu byddwch yn chwerthin o'r munud cyntaf i'r olaf! Cafodd ei gyfarwyddio gan Chris Columbus yn 1993 gyda'r prif cast o Robin Williams (Daniel hillard/Mrs Doubtfire) Sally Field (Miranda Hillard) Pierce Brosnan (Stu) Harvey Fierstein a Jason Alexander.
Mae'r film yn dechrau gyda Miranda yn gwneud ei waith ac mae Daniel adref gyda ei blant. Oherwydd bod Miranda yn gwiethio mae Daniel yn taflu parti gwyllt yn y ty ac wrth iddi dod adref mae Miranda yn ffeindio 'Petting Zoo' ac yn ffeilio am ysgariad, ac felly maent yn cael 'custody battle'. Enilliwyd hon gan Miranda ac dim ond ar dydd sul bob yn ail mae Daniel yn cael gweld ei blant o dan arolygiaeth y llywodraeth. Ar ol hyn mae angen gofalwr ar Miranda am y plant ac mae Daniel yn ffeindio allan am hyn. Gan ddefnyddio nifer o acenion gwahanol mae'n ffonio Miranda am yr hysbyseb, nes bod Miranda yn teimlo bod popeth yn anobeithiol. Ond byddai Daniel yn ffonio un mwy tro ac yn chwarae hen wraig Albanaidd o'r enw Mrs Doubtfire ac, o'r diwedd, cafodd y swydd. Aeth draw at ei frawd a oedd gyda swydd fel artist colur ac dechreuodd ei droi i hen fenyw.
Cafodd amser gwych gyda'i blant ond dim ond amau bod hen fenyw Albanaidd yr oedd hi. Ond cafodd yr holl stori ei ddinistrio pan rhoddwyd rhywbeth yn bwyd Stu ac fe rhoddwyd yr 'Heimlich Manouver' iddo. Ond wrth wneud hyn daeth masg Daniel i ffwrdd yn gadael ei wyneb i bawb ei weld. Ond doedd Miranda ddim eisiau y plant fod heb Mrs Doubtfire felly gofynnodd i'r llywodraeth os gall Daniel (nid Mrs Doubtfire) fod yn y gofalwr i'r plant ac ar ol brwydro fe gafodd cytundeb ei greu, a bydd Daniel yn cael gwneud hyn.
Ar ol y damwain fawr, credodd Mr Lundi (pennaeth gwaith Daniel) fod Mrs Doubtfire yn gymeriad ardderchog ac fe cafodd hi ei rhoi i mewn i rhaglen deledu arbennig.
Yn fy marn i, mae'r film yn dangos y pwysicrwydd o deulu ac mae'n hawdd i empatheiddio gyda'r cymeriadau. Os mae rhywun heb ei weld, byddent yn rhywddydd oherwydd bydd pawb yn dweud wrthynt i ei wylio. F elly gwyliwch y film, mwynhewch y film ac argymhellwch y film.
Gan Iolo