Isod darperir rhestr o'r ffilmiau Cymraeg a Chymreig sydd ar y catalog, a'n nod yma yw i dynnu sylw a hyrwyddo ffilmiau sy'n unigryw i ni fel cenedl ein Cynefin neu i Stori Cymru.

Mae'r mwyafrif o'r ffilmiau isod ar gael drwy'n system ffrydio, Into Film+, ac mae'r ffilmiau gan bobl ifanc ar gael i bawb eu gwylio am i rai ennill ein cystadleuaeth Ffilm y Mis.

Noder ein bod hefyd yn awyddus i ddarparu ffilmiau sydd yn anodd eu canfod fel arall, ac ry'n ni'n awyddus i ehangu'r ddarpariaeth. Os ydych chi'n gwybod am ffilm addas, cysylltwch â ni!

* Mae dangos ffilmiau mewn cyd-destun allgyrsiol yn galw am drwydded PVSL gan Filmbankmedia. Mae ysgolion Conwy, Caerdydd a'r Fro yn derbyn trwydded gan yr Awdurdod Addysg. Mae ysgolion mewn rhanbarthau eraill naillai'n prynu trwydded eu hunain neu'n gofyn am gymorth gan yr Awdurdod Addysg. I wybod mwy, ebostiwch cardiff@intofilm.org.

Mae Into Film a system ffrydio Into Film+ wedi'u cefnogi gan y diwydiant ym Mhrydain drwy gyllid Cinema First a'r Loteri Genedlaethol drwy'r BFI, diolch i'r rheiny sy'n chwarae'r Loteri.