Education Ambassador Rhys Roberts

Teacher at Llanharan Primary School, Rhondda Cynon Taff, Wales

Rhys Roberts, Education Ambassador
Rhys Roberts, Education Ambassador

Being an Into Film Education Ambassador has been one of the most rewarding experiences of my teaching career. Working alongside like-minded educators and sharing and observing best practices for using film in the classroom has boosted my confidence to introduce fresh ideas and learning opportunities for my students.

I qualified as a primary school teacher in 2004 and joined Llanharan Primary School in 2007. From the beginning, I embraced every chance to use film in literacy lessons, sparking imagination and offering all pupils the opportunity to develop literacy skills without the pressure of reading text from a page.

In June 2016, I was invited to participate in an Into Film Cymru Film Literacy project, marking my first involvement with Into Film. This experience inspired me to take over the school's weekly film club, which quickly became my favourite club to run! Shortly after, in July 2016, I was honoured to become an Ambassador for Into Film Cymru - a role I'm incredibly proud of.

Becoming involved with Into Film is the best thing I have ever done since becoming a teacher. It has opened up new experiences for me, which have had such a positive impact on the children in my setting. More than anything else, it has just been so much fun!

Teacher and Education Ambassador Rhys Roberts

I was then invited to become a wider Education Ambassador for Into Film in July 2018, marking eight years of incredible opportunities to collaborate with like-minded educators, share and observe best practices for using film in the classroom, and work with creative talent from the film industry to spark my own imagination.

Film is a dynamic medium for self-expression and storytelling, and a powerful educational tool, especially for promoting literacy. It engages students inclusively, allowing them to practice reading skills without the pressure of traditional text. Film also opens doors to diverse cultures and experiences, offering perspectives that students might not otherwise encounter - especially in light of the challenges posed by the cost of living crisis. As technology rapidly evolves, film becomes even more crucial in capturing children's imaginations and inspiring them to explore future career paths, including those that may not yet exist.

Seeing students unlock their potential and using storytelling to impact the world is incredibly rewarding. Here in Wales, the growing film and TV industry, with a studio in our own village, offers unique opportunities for students. Many are already immersed in technology, creating their own content. By equipping them with the skills to refine their ideas, we can turn their passions into meaningful career pathways, all while fostering creativity and cultural awareness.

The experiences and opportunities I've gained as an Ambassador would have been beyond my reach otherwise. It's a role that fills me with pride, as promoting and celebrating the use of film in education is something I'm passionate about, given the immense benefits it brings to pupils.

Applications for Education Ambassadors are now open!

We are currently looking to expand our Education Ambassador network. We wish to welcome more educators, youth workers and careers professionals who are passionate about inspiring young people to learn and realise their creative, cultural and careers aspirations through film and the moving image.

If you are interested in becoming an Education Ambassador, please apply by 23:59 on Friday 11 October 2024.

Llysgennad Addysg Rhys Roberts

Un o'r profiadau mwyaf gwobrwyol yn fy ngyrfa fel addysgwr yw bod yn Llysgennad Addysg i Into Film. Gan weithio wrth ochr addysgwyr o'r un anian, a rhannu ag arsylwi arferion da ar ddefnyddio ffilm yn yr ystafell ddosbarth, mae fy hyder wedi codi i gyflwyno syniadau ffres a chyfleoedd dysgu gyda fy myfyrwyr.

Fe wnes i gymhwyso fel athro cynradd yn 2004 yna ymunais ag Ysgol Gynradd Llanharan yn 2007. O'r dechrau, nes i gymryd bob cyfle i ddefnyddio ffilm mewn gwersi llythrennedd, gan danio'r dychymyg a chynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd heb bwysau darllen ysgrifau.

Ym mis Mehefin 2016, ces i fy ngwahodd i fynychu prosiect Llythrennedd Ffilm Into Film Cymru a dyma oedd fy nghyfraniad cyntaf gyda'r sefydliad. Rhoddodd y profiad yma'r ysbrydoliaeth i arwain y clwb ffilm wythnosol sydd gennym yn yr ysgol, ac fe ddaeth yn hoff glwb imi mewn dim o amser! Yn gyflym iawn, ym mis Gorffennaf 2016, ces i'r fraint i ddod yn Llysgennad i Into Film sy'n rôl dwi'n eithriadol o falch ohoni.

Ers dechrau fy ngyrfa yn dysgu, ymrwymo a Into Film yw'r peth gorau dwi wedi gwneud. Mae wedi cynnig profiadau newydd i fi, ac mae hyn wedi cael effaith bositif ar y disgyblion yn fy ysgol.

Athro a Llysgennad Addysg Rhys Roberts

Yna, cefais fy ngwahodd i fod yn Llysgennad Addysg i Into Film ym mis Gorffennaf 2018, sy'n nodi 8 mlynedd o gyfleoedd anhygoel i gydweithio gydag addysgwyr o'r un anian, rhannu a gwrando ar arferion da o ddefnyddio ffilm yn yr ystafell ddosbarth, a gweithio gyda thalent creadigol o'r diwydiant ffilm i danio fy nychymyg.

Mae ffilm yn gyfrwng deinamig i hunan-fynegi ac i adrodd stori, mae hefyd yn arf addysgol pwerus, yn enwedig i hybu llythrennedd. Mae'n cysylltu gyda myfyrwyr mewn modd cynhwysol, yn eu caniatáu i ddatblygu sgiliau darllen heb bwysau darllen ysgrifau traddodiadol. Mae ffilm hefyd yn agor drysau i ddiwylliant a phrofiadau amrywiol, gan gynnig safbwyntiau na fyddai rhai disgyblion wedi dod ar draws - yn enwedig gan ystyried yr heriau sydd wedi codi yn sgil codiad costau byw. Gyda thechnoleg yn datblygu'n gyflym, mae rôl ffilm yn tyfu'n bwysicach i ddal dychymyg plant ac i'w ysbrydoli nhw i archwilio llwybrau gyrfaol, gan gynnwys efallai'r rhai sydd ddim yn bodoli eto.

Mae gweld myfyrwyr yn datgloi eu potensial a defnyddio sgiliau adrodd stori i effeithio ar y byd yn hynod wobrwyol. Yng Nghymru, mae'r diwydiant Ffilm a Theledu yn tyfu ac yn cynnig cyfleoedd unigryw i'n myfyrwyr, mae hyd yn oed gennym stiwdio yn ein pentref. Mae llawer yn barod wedi ymgolli ym myd technoleg ac yn creu cynnwys eu hunain. Wrth eu harfogi gyda'r sgiliau i fireinio syniadau, gallwn droi'r diddordeb craidd mewn i lwybr gyrfaol cadarnhaol, i gyd tra'n meithrin creadigrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Petaswn i ddim yn Llysgennad Addysg, byddai'r cyfleoedd a phrofiadau yr wyf wedi derbyn wedi bod tu hwnt i fy ngafael. Mae'r cyfrifoldeb yma'n llenwi fi a balchder gan fy mod yn angerddol dros hyrwyddo a dathlu defnydd ffilm ym myd addysg, o ystyried y manteision aruthrol a ddaw yn ei sgil i ddisgyblion.

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer y cynllun Llysgenhadon Addysg!

Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu ehangu ein rhwydwaith Llysgenhadon Addysg. Rydym yn dymuno croesawu mwy o addysgwyr, gweithwyr ieuenctid ag arweinwyr gyrfaoedd proffesiynol sy'n frwd dros ysbrydoli pobl ifanc i ddysgu a gwireddu eu dyheadau creadigol, diwylliannol a gyrfaol trwy ffilm a'r ddelwedd symudol.

Os oes gennych ddiddordeb i ymuno a'r cynllun Llysgenhadon Addysg, danfonwch eich cais atom erbyn 23:59 ar ddydd Gwener yr 11eg o Hydref 2024