How do Into Film Clubs work?
Find out more about what's involved in running your very own Into Film Club.
7–11
Medium (5-11 activities)
Mae'r adnodd hwn yn seiliedig ar yr animeiddiad Kensuke's Kingdom, a'i nod yw trwytho dysgwyr ym myd y ffilm ac animeiddio 2D.
Mae'r ffilm, a ryddahwyd yn 2024, wed'i haddasu o nofel hynod boblogaidd Michael Morpurgo. Ysgrifennwyd y sgript gan Frank Cottrell-Boyce, a ennillodd Wobr yr Awdur yngNgwobrau Animeiddio Prydain 2024.
Mae yna gynlluniau gwersi unigol sy’n edrych ar themâu amgylchedd a chynaliadwyedd, goroesi ac animeiddio. Gallwch ddefnyddio’r rhain fel gwersi annibynnol neu i greu cynllun gwaith cyflawn. Gallwch hefyd ddewis elfennau o’r gyfres o adnoddau i’w defnyddio wrth gynllunio gwersi.
Mae yna linyn cryf o Gymraeg/Llythrennedd ar draws yr holl gynlluniau gwersi. Ceir awgrymiadau hefyd ar sut i adeiladu ar y cynllun gwers i fynd i’r afael â meysydd eraill o’r cwricwlwm, yn ogystal â dogfen Cysylltiadau Cwricwlwm.
Gall yr adran animeiddio gael ei chyflwyno fesul rhan ymhlith cynnwys y cwricwlwm neu ei chyflwyno fel uned animeiddio i ategu’r dysgu cwricwlaidd neu hyd yn oed i wneud animeiddio 2D mewn clwb allgyrsiol. Gall y dysgwyr ystyried cyflwyno eu hanimeiddiadau gorffenedig i gystadlaethau Curricular Film of the Month neu Film of the Month
To see these resources in English, go to / I weld yn Saesneg, ewch i:
https://www.intofilm.org/resources/2246
We have developed a large catalogue of educational resources since launching in 2013, and some references and terminology will inevitably have dated as society and language evolves. We are aware of this and will be updating resources when our production schedule allows.