Thirty years after the events of the first film, a new blade runner unearths a dark secret which threatens the future of humanity.
Certificate
Duration163 mins
Review by
Blade Runner 2049 - Review
Ridley Scott’s renowned future-noir fantasy Balde Runner, released in 1982, is considered to be a masterpiece by many and continues to inspire the film industry today, primarily due to the world-building sci-fi capabilities of the film, despite it having been altered with the director’s cut and the final cut since its theatrical release.
Blade Runner 2049 directed by Arrival’s Denis Villeneuve and co-written by the original screenwriter Hampton Fancher is a sequel that is fervently philosophical, visually remarkable that inverts the fundamental themes of the first and is an intensely visceral experience.
Following in the footsteps of Harrison Ford’s Deckard, 30 years after the events of the original film, Blade Runner 2049 follows impassive hunter Agent K ( Ryan Gosling) as he’s hunting replicants until he is haunted by the words of Dave Bautista’s Sapper Morton whom he ‘retires’, saying that K can only continue being a blade runner because he has “never seen a miracle”. This phrase becomes an integral part of the story as it develops and taunts K and the audience while trying to deduce it’s meaning.
K mostly lives in solitude except for his holographic, artificial intelligence girlfriend, Joi as played by Ana de Armas. He is subjected to a word association interrogation that inverts the Voight-Kampff replicant detecting test that were undertaken by Deckard. K begins to suffer from existential anxieties and conflicting emotions, which are at the heart of Villeneuve’s work, and questions his work, memories and nature under the watchful gaze of Robin Wright’s Lieutenant Joshi.
I was continually astounded by Roger Deakins’ immaculate cinematography and undoubtedly one of the best-looking films that I have ever seen aided by utterly impressive production designs where the bright candy colours are confined to the artificial lights of advertisements including corporation logos such as Pan-Am, Atari, Coca-Cola and Sony. The film is a consistent visual feast in a film that progresses at an interminable pace that allows the audience the opportunity to appreciate this and dwell on the questions and ideas posed in the film.
Harrison Ford delivers an admirable performance reprising his character as Deckard where it is evident that he is deeply traumatised by the events of the past and as certain revelations unfold these things become emotionally resonant with the audience. Villeneuve sustains the mystery of Deckard’s identity that was at the heart of Ridley Scott’s original. The film’s euphoric soundscape by Benjamin Wallfisch and Hans Zimmer tributes Vangelis’s themes in the original film’s score.
In addition to Blade Runner 2049’s overwhelming visuals and thought-provoking ideas, it’s a film with an unremitting heart beating at its centre.
Adolygiad - Blade Runner 2049
Mae Blade Runner gan Ridley Scott a rhyddhawyd yn 1982 yn cael ei hystyried yn gampwaith led-led y byd ac wedi bod yn ddylanwadol iawn ar y diwydiant ffilm. Ers llwyddiant y ffilm wrth greu byd ffuglen wyddonol gyffyrddadwy iawn mae’r ffilm wedi cael ei hadnewyddu yn aml gyda’r fersiwn cyfarwyddwr a’r fersiwn orffenedig ers y fersiwn theatraidd gwreiddiol.
Dilyniant i’r ffilm wreiddiol yw Blade Runner 2049 wedi’i chyfarwyddo gan Denis Villeneuve (Arrival) ac wedi'i hysgrifennu ar y cyd gydag awdur y ffilm wreiddiol Hampton Fancher sy’n ffilm danbaid, athronyddol, syfrdanol yn weledol sy’n gwrthdroi themâu sylfaenol y ffilm wreiddiol ac yn brofiad hynod o angerddol.
Tri deg mlynedd yn ddiweddarach ar ôl digwyddiadau’r ffilm gyntaf, megis Deckard (Harrison Ford) ynghynt mae Blade Runner 2049 yn dilyn y Blade Runner digyffro, K (Ryan Gosling) sy’n hela ‘replicants’ tan ei fod yn cael ei gyrchfa gan eiriau Sapper Morton (Dave Bautista) sy’n dweud fod K ym medru cyfiawnhau ei swydd a pharhau i’w wneud oherwydd dyw ef erioed wedi gweld gwyrth. Mae’r dywediad yma yn rhan annatod o’r stori wrth iddi ddatblygu ac yn effeithio ar feddwl K a’r gynulleidfa wrth i ni geisio diddwytho ei hystyr.
Yn bennaf mae K yn byw bywyd anghyfannedd ac unig oni bai am ei gariad deallusrwydd artiffisial , Joi ( Ana De Armas). Cyflawnai K holiad gan gysylltu geiriau sydd unwaith eto yn gwrthdroi y prawf Voight-Kampff i ganfod ‘replicants’ a gynhaliwyd gan Deckard yn y gorffennol. Dechreuai K ddioddef o bryderon dirfodol ac emosiynau anghyson sydd yng nghalon gwaith Villeneuve. Cwestiynau ef ei waith, ei atgofion a natur ef ei hunan o dan effro parhaol cymeriad Robin Wright, Lieutenant Joshi.
Yn barhaol cefais fy synnu gan sinematograffi difrycheulyd Roger Deakins a heb os hon yw un o’r ffilmiau gweledol gorau erioed ac yn cael ei chynorthwyo gan gynlluniau cynhyrchiad trawiadol lle mae lliwiau candi yn cael eu cyfyngu i olau artiffisial hysbysebion gan gynnwys logos cwmnïau fel Pan-Am, Atari, Coca-Cola a Sony. Y mae’r ffilm yn wledd i’r llygaid yn gyson ac yn datblygu ar gyflymder diderfyn sy’n caniatáu’r gynulleidfa i’w gwerthfawrogi a phendroni ar y cwestiynau a syniadau a chyflwynwyd i ni yn y ffilm.
Canmoladwy yw perfformiad Harrison Ford yn y ffilm yma lle y mae’n atbreis ei gymeriad o Deckard. Yn amlwg y mae’n gymeriad sy’n dioddef o ddigwyddiadau trawmatig ei orffennol ac wrth i ddatguddiadau dod yn amlwg y mae pethau yn gysain yn emosiynol gyda’r gynulleidfa. Llwydda Denis Villeneuve i gynnal y dirgelwch yng nghysylltiedig â hunaniaeth Deckard a oedd yng nghraidd ffilm wreiddiol Ridley Scott. Mae sain orfoleddus y ffilm gan Benjamin Wallfisch a Hans Zimmer yn rhoi teyrnged i themâu cerddoriaeth Blade Runner gan Vangelis.
Yn ogystal i ddyluniadau gweledol llethol Blade Runner 2049 a’i syniadau pryfoclyd i’r ymennydd y mae’n ffilm gyda chalon gadarn yn curo yn ei ganol.