Dadansoddi Cynnwys wedi’i Greu gan AI

Get your students examining AI with this Welsh translation of our Space For
Get your students examining AI with this Welsh translation of our Space For

Ages

8–12

Duration

Short (1-4 activities)

Nation

Wales

Mae’r adnodd hwn yn cyflwyno myfyrwyr I rhai o’r prif pynciau ynghylch deallusrwydd artiffisial (AI).

Gyda AI yn denu sylw pobl o bob oed, dyma gyfle pwysig i drin a thrafod y maes – i archwilio’n ddyfnach, i ddadansoddi ac i ddadelfennu, fel ein bod yn gallu gwirio pa mor wir neu gywir yw’r cynnwys.

Mae AI yn gallu dylanwadu ar ein dealltwriaeth o’r byd ac felly mae’n bwysig ein bod yn arfogi ein pobl ifanc i wirio â chwestiynu wrth ymwneud a chynnwys AI.

Noder: creuwyd yr adnodd hwn gan Dim Dysgu Into Film – criw o Athrawon profiadol. Defnyddiwyd AI i greu’r posteri a’r trêl ffilm o fewn yr adnodd, ond nid i ysgrifennu’r adnodd ei hun. 

Mae gwybodaeth gan OFCOM, amcanion Cwricwlwm I Gymru a thystyiolaeth gan Llywodraeth y DU yn tanlinelli’r angen am fwy o bwyslais ar lythrennedd digidol a thrafodaeth am AI yn y dosbarth.  

Mae’r adnoddau hyn – sy’n cynnwys gweithgareddau dadansoddi, trafodaeth dosbarth ac gwaith unigol yn edrych ar AI ynghyd-destun y sector sgrin.

Wrth iddyn nhw ddadansoddi gwahanol rannau o'r ymgyrch farchnata AI, bydd myfyrwyr yn dysgu am ba mor hawdd neu anodd yw hi i wirio os yw rhywbeth yn AI neu na. 

Bydd y dysgwyr yn dechrau'r wers drwy wylio ffilm ragflas ar gyfer ffilm o'r enw Space Force. Heb gael gwybod ei bod wedi'i chreu gan ddefnyddio AI, bydd y dosbarth yn cael eu hannog i feddwl am naratif a chymeriadau'r ffilm drwy ateb cyfres o gwestiynau. Fodd bynnag, wrth iddyn nhw wylio'r ffilm ragflas, efallai y byddan nhw'n sylwi ei bod ychydig yn anarferol. Unwaith y byddan nhw'n darganfod bod y ffilm ragflas wedi'i chreu'n llwyr gan AI, bydd y dysgwyr yn meddwl am beth yw AI mewn gwirionedd ac yn meddwl am syniadau am sut i'w adnabod.

Yna bydd y dosbarth yn ystyried ffyrdd eraill o hyrwyddo ffilmiau i gynulleidfaoedd ac yn meddwl a oes modd creu'r eitemau hyrwyddo hyn gan ddefnyddio AI hefyd. Drwy archwilio cyfres o bosteri ar gyfer Space Force, fe fyddan nhw’n gwerthuso pa mor effeithiol yw'r posteri hyn ac a oedd y cyfarwyddiadau a ddefnyddiwyd i'w creu yn ddigon manwl.

Wrth iddyn nhw ddadansoddi gwahanol rannau o'r ymgyrch farchnata ar gyfer Space Force, gan gynnwys adolygiadau a phostiadau’r cyfryngau cymdeithasol, bydd y dysgwyr yn meddwl am ba mor anodd y gall fod i adnabod cyfryngau sydd wedi'u creu gan ddefnyddio AI cynhyrchiol a pham y gall y sgil hon fod yn bwysig.

Ry’n ni’n ymwybodol o’r ffaith fod pethau yn newid bob eiliad ac felly erbyn ichi ddefnyddio’r adnodd hwn, bydd AI wedi esblygu ymhellach – ac felly dyna pam ein bod wedi cynnwys darn am esblygiad AI ar ddiwedd yr adnodd, fel bod modd i’r myfyrwyr eu hunain feddwl am hyn yn y dyfodol.

Yn Saesneg – In English : Resource - Space Force - Analysing AI - Into Film

This resource includes

This Resource Supports

  • PSHE Education

Got Some Feedback?

We love to hear how educators have used our resources.

Contact us

Updating our resources

We have developed a large catalogue of educational resources since launching in 2013, and some references and terminology will inevitably have dated as society and language evolves. We are aware of this and will be updating resources when our production schedule allows.

How Do Into Film Clubs Work? header

How do Into Film Clubs work?

Find out more about what's involved in running your very own Into Film Club.

Into Film CPD Training (Bolton)

Training

Learn how to make the most of film in education with our training programme.

What our educators say

"I think that our work on ‘The Girl and the Fox’ has really benefitted our children. I would thoroughly recommend the Into Film approach to any school wanting to improve attainment in literacy."