CADW'N DDIOGEL AR-LEIN 11-16

Anogwch eich dysgwyr rhwng 11 ac 16 oed i drafod diogelwch ar y rhyngrwyd g
Anogwch eich dysgwyr rhwng 11 ac 16 oed i drafod diogelwch ar y rhyngrwyd g

Ages

-

Duration

Medium (5-11 activities)

Nation

Wales

Yn y wers hon, bydd disgyblion yn ystyried eu lles digidol drwy ymchwilio i sut i adnabod cynnwys diogel a dilys ar-lein. Gan ddefnyddio detholiad o'r ffilm Ready Player One, bydd dysgwyr yn meddwl am fanteision o fod yn rhan o gymuned ar-lein, yn ogystal â'r problemau y gall creu presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol eu hachosi. Byddant yn ystyried pam mae pobl yn creu proffiliau sy'n cuddio'r gwirionedd. Bydd dysgwyr yn datblygu eu trafodaeth drwy dysgu o’r ffilm fer My Friend Frank sy'n adlewyrchu bregusrwydd pobl ifanc ar-lein. Byddant yn ystyried a yw'r ffilm yn cynnig barn gytbwys ac, mewn gweithgaredd estynedig, yn meddwl sut y byddent yn cyflwyno neges am ddiogelwch ar-lein drwy gyfrwng ffilm.

Mae'r wers yn parhau gan ganolbwyntio ar ddilysrwydd a dibynadwyedd. Os gall pobl newid eu hunaniaeth ar-lein, sut rydym yn gwybod pwy neu beth i ymddiried ynddo? Mae'r adran hon yn gofyn i ddysgwyr ystyried pa gamau y gallant eu cymryd i sicrhau bod y wybodaeth maent yn ei chael ar y rhyngrwyd yn ddibynadwy. Byddant yn ystyried newyddion ffug a sgamiau, gyda gweithgareddau wedi'u cynllunio i'w hannog i edrych yn fwy manwl ar y cynnwys maent yn eu defnyddio. Fel rhan o ddatblygiad pellach, bydd dysgwyr yn ystyried sut mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn ei gwneud hi'n haws creu 'deepfakes' a chynnwys a allai fod yn niweidiol. Byddant yn ystyried pa sgiliau sydd eu hangen ar ddefnyddwyr i ddadansoddi a deall y wybodaeth maent yn ymwneud â hi.

Bydd y wers yn cloi gyda dysgwyr yn meddwl am yr hyn y byddant yn ei wneud yn wahanol wrth ddefnyddio platfformau a chynnwys ar-lein yn y dyfodol. Mae tasgau dewisol hefyd wedi'u cynnwys drwyddi draw.

This resource includes

Got Some Feedback?

We love to hear how educators have used our resources.

Contact us

Updating our resources

We have developed a large catalogue of educational resources since launching in 2013, and some references and terminology will inevitably have dated as society and language evolves. We are aware of this and will be updating resources when our production schedule allows.

How Do Into Film Clubs Work? header

How do Into Film Clubs work?

Find out more about what's involved in running your very own Into Film Club.

Into Film CPD Training (Bolton)

Training

Learn how to make the most of film in education with our training programme.

What our educators say

"Film is totally part of the curriculum throughout all subjects, at both Key Stages 3 and 4. We couldn't teach here without film!"