How do Into Film Clubs work?
Find out more about what's involved in running your very own Into Film Club.
-
Medium (5-11 activities)
Wales
Yn y wers hon, bydd disgyblion yn ystyried eu lles digidol drwy archwilio'r agweddau cadarnhaol a'r problemau sy'n gysylltiedig â threulio amser ar-lein. Mewn gweithgaredd cychwynnol, bydd pobl ifanc yn ystyried sut mae'r rhyngrwyd wedi newid ein bywydau, gan gynnwys yr iaith rydym yn ei defnyddio.
Gan ddefnyddio detholiad o'r ffilm The Social Network, bydd dysgwyr yn ystyried sut mae cyfryngau cymdeithasol wedi datblygu a newid ers dyddiau cynnar Facebook. Byddant yn meddwl pam fod defnyddwyr yn mwynhau cyfryngau cymdeithasol a'r ffyrdd y mae'n werthfawr i unigolion. Byddant hefyd yn ystyried rhai o'r problemau sy'n gysylltiedig â chyfryngau cymdeithasol ac yn rhestru'r tair prif broblem yn eu barn nhw.
Mae'r wers yn parhau gyda ffilm a wnaed gan bobl ifanc o'r enw Jessica’s Wish, sy'n cyfleu'r neges ei bod hi'n bwysig cael llawer o leisiau gwahanol ar-lein. Ar ddiwedd yr adran hon, bydd cyfle i gynnal dadl yn yr ystafell ddosbarth yn canolbwyntio ar y datganiad canlynol: ‘Mae profiadau positif cyfryngau cymdeithasol a'r cyfle i greu cysylltiadau â phobl yn bwysicach na'r agweddau negyddol’.
Bydd rhan nesaf y wers yn edrych ar ddatblygiadau technolegol eraill, yn benodol y ffôn symudol a'r syniad bod pawb yn gysylltiedig drwy’r amser. Anogir dysgwyr i archwilio eu perthynas â'u ffonau eu hunain drwy fyfyrio ar faint o amser maent yn ei dreulio yn edrych ar sgriniau a'r apiau maent yn eu defnyddio. Gofynnir iddynt ystyried pam ei bod mor anodd rhoi ein ffonau i lawr. Yna, dangosir y ffilm a wnaed gan bobl ifanc, How to Get Over FOMO, sy'n archwilio sut y gall pobl ifanc ofyn am gymorth pan fyddant yn cael trafferth gydag effaith negyddol cyfryngau cymdeithasol a’r cyswllt parhaol sy’n bodoli.
Bydd y wers yn cloi gyda dysgwyr yn cynllunio syniadau ar gyfer ffilmiau byrion eu hunain am rywun sy'n cael trafferth gyda'r byd ar-lein ac sy'n mynd ati i ofyn am gymorth. Byddant yn cyflwyno eu syniadau ar gyfer y ffilmiau byrion ar ddiwedd y wers.
We have developed a large catalogue of educational resources since launching in 2013, and some references and terminology will inevitably have dated as society and language evolves. We are aware of this and will be updating resources when our production schedule allows.