The winners of our Welsh language review writing competition

12 Jul 2017

4 mins
Urdd Competition Winners
Urdd Competition Winners

Darllennwch waith enillwyr cystadleuaethadolygu ffilm ar gyfer Eisteddfod yr Urdd

Yn ddiweddar, rydym wedi uno gydag Urdd Gobaith Cymru i greu cystadleuaeth adolygu ffilm. Cyflwynwyd y gystadleuaeth fel rhan o gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd a gynhelir ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, Taf ac Elai, a derbyniwyd 80 o geisiadau.

Rhanwyd y gystadleuaeth yn ddau gategori - Cynradd (CA2) ac Uwchradd - blynyddoedd 7,8,9 (CA3) Diolch i'r beirniaid Sioned Wyn Roberts o S4C a Hannah Thomas o Ffilm Cymru Wales am edrych ar y ceisiadau a dewis yr enillwyr.

Mae'r rhai ddaeth yn ail a trydydd wedi derbyn ychydig o wobrau arbennig yn cynnwys, peniau, padiau nodiadau a bandiau garddwn a bydd yr ennillwyr yn derbyn gweithdy i'w dosbarth a chopi ffilm hynod Martin Scorcese Hugo ar DVD.

Prif hanfod y ffilm yw creulondeb dyn ac ymdriniaeth y Capital o'i phobl. Er mai PG ydyw, ac er yr holl drais, nid yw'n or-dreisgar. Teimla pawb y boen a'r anobaith ar y cyd gyda'r ymgeiswyr (y Tribiwnyddion) a thaeogion yr Ardaloedd, ond efallai nad yw mawredd y trais yn taro'r gwyliwr hyd nes iddo adael y sinema.

Crea'r goleuo, y gerddoriaeth ddramatig a'r technegau ffilmio olygfeydd llawn tensiwn a chyffro, yn enwedig wrth i'r gemau gychwyn a'r ymladd didrugaredd ymysg yr ymgeiswyr. Llwydda'r dechnoleg a'r graffeg i greu creaduriaid dieflig ac ysblander pwerus dinas y Capital ei hun. Cyfleu erchyllterau'r brwydro wna'r defnydd o olau amrywiol ac mae colur a gwisgoedd trigolion y Capital yn creu awyrgylch gwbl swreal sy'n taro deuddeg.   

Nofel allan o drioleg yw'r Hunger Games gan Suzanne Collins, ac oherwydd iddi gydweithio gyda'r cyfarwyddwr Gary Ross ar y sgript, llwyddwyd i'w throi'n ffilm bwerus a thryw i'r nofel - o'r gwisgoedd a'r set, i'r lleoliadau. Rhinwedd arall yw'r cyflymder, wrth i'r cymeriadau gael eu 'sgubo o'u hardaloedd i'r Capital ar drên cyflym er mwyn cael eu pamprio, gweddnewid eu delweddau a'u hyfforddi ar gyfer chwant y Capital. Mae'r holl saethiadau camera llaw agos yn effeithiol iawn ac mae'r ffilm yn tynnu'n gelfydd holl themâu poenus y nofel.

Fflim ffug wyddonol ei naws, ffilm â neges gref i atgoffa pawb o'r hyn all ddigwydd - a'r cyfan yn cael ei grynhoi gyda'r cyfarchiad eironig 'may the odds be ever in your favour'.

Yn Gymraeg

We recently partnered with Urdd Gobaith Cymru (the Welsh League of Youth) to run a Welsh language review writing competition. The competition was part of the National Urdd Eisteddfod, a touring youth festival, held this year in the Welsh counties of Pen-y-Bont ar Ogwr and Taf Elai during the recent half-term, and received over 80 fantastic entries. 

The competition was split into two categories - a Primary category (aimed at KS2 or equivalent), and a Secondary category, encompassing years 7, 8 and 9 (KS3 or equivalent). The entries were judged by Hannah Thomas of Ffilm Cymru Wales and Sioned Wyn Roberts of Welsh TV channel S4C. So, without further ado...

The runners-up for the Primary category were Ella (11) and Tomos (11) from Ysgol Llandudoch, and congratulations to Lefi (11) from Ysgol Eglwyswrw for submitting a comprehensive and detailed review of the Welsh language film Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

In the Secondary category, our runners up were Erin (14) and Marged (14) from Ysgol Gyfun Llanhari in the county of Rhondda Cynon Taff, and the winning prize goes to another Erin (14), from Ysgol Berwyn, Gwynedd for her superb review of The Hunger Games.

All runners-up have won a small goodie bag of pens, badges, notepads and wristbands, while the two overall winners were awarded a workshop for their whole school year and a copy of Martin Scorcese's Hugo on DVD.

The quality of entries was particularly high, so congratulations to all of our runners up, and of course, to our two fantastic winners. You can read both of the winning entries below, presented in their original Welsh, and we hope to read many more reviews from everyone who took part in the future, so be sure to keep writing!

Cyflwynir yr ail a'r drydedd wobr I Ella (11) a Tomos (11) o Ysgol Llandudoch a llongyfarchiadau i Lefi (11) o Ysgol Gynradd Eglwyswrw am gipio'r wobr gyntaf am ei adolygiad gwych o'r ffilm Albi a Noa yn achub yr Iwnifyrs. Yn y categori uwchradd gwobrwywyd myfyrwyr yn yr un ysgol gyda'r ail a'r drydedd wobr; Erin (14) a Marged (14) o Ysgol Gyfun Llanhari, Rhondda Cynon Taf a llongyfarchiadau eto I Erin (14) o Ysgol y Berwyn, Gwynedd am gipio'r wobr gyntaf am yr ail flwyddyn yn olynnol am ei hadolygiad o The Hunger Games.

Nodwyd gan y ddau feirniad bod safon y cystadlu yn uchel iawn ac felly rhaid canmol pawb am hyn. Gellir darllen yr adolygiadau buddugol isod a ry'n ni'n edrych ymlaen at dderbyn mwy o adolygiadau yn y dyfodol!

Lefi's winning review of Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

Buin syndod mawr i fi ddarganfod bod S4C yn dangos ffilm Gymraeg ar y teledu y Nadolig yma, gan fy mod erioed wedi gweld ffilm Gymraeg yn fy myw, ac yn wir, gydag enw anghyffredin fel hwn, roedd y ffilm yna'n un dda am fy ffilm gyntaf... Mae'r ffilm yma'n cwmpasu bron pob nodwedd sydd angen ar ffilm deulu fodern, gan ei bod yn cynnwys tristwch, hiwmor, hapusrwydd, cyfeillgarwch, ac yn enwedig y Nadolig. Yn ogystal 3 hyn, mae llawer o droeadau annisgwyl yn Ilechu ynddi ac mae'n eithriadol o grefftus, son am fachgen ifanc o'r enw Noa, sy'n cael ei dynnu i lawer o ddrygioni gan ei ffrind pennaf, Albi (sy'n ffrindd dychmygol) Ond, wrth i un o driciau Albi gael rhieni Noa (Rob a Hanna Howells) i mewn i helynt mawr, mae'r teulu'n gyrru i ffwrdd i fwthyn anghysbell, o'r enw Afallon, er mwyn ymlacio, a cholli Albi. Ond a fydd Noa'n cael Nadolig Ilawen? Ble mae Albi? Pwy yw'r dyn anghyffredin sy'n crwydro o amgylch y bwthyn diarffordd? Ac oes yna gysylltiad annisgwyl rhwng tad Noa ag e? Dyma ffilm hudolus, heb elynion a drwgweithredwyr and problemau teuluol a gwaith yn eu Ile, sy'n effeithiol ac argraffiadol. Mae'r ffilm yma'n Ilwyddiannus, ac yn dangos fod ffilmiau Cymraeg yr un mor ysblennydd a ffilmiau eraill ar draws y byd. Heb amheuaeth, dyma'r ffilm orau y Nadolig yma, a does dim dwywaith taw hon yw'r ffilm orau Gymraeg erioed. Roedd cymaint o rym gan y ffilm yma, gan fy mod wedi chwerthin yn uchel, a hyd yn oed Ilefain I'm hunan wrth wylio'r ffilm! Rwy ychydig yn siomedig fod y ffilm hon heb gael ei arddangos yn y sinema, ac yn credu'n gryf y dylai. Dyma ffilm deulu Gymraeg, gyffrous, gyda dechreuad argraffiadol, a diweddglo Ilawen, gydag ychydig o hud wedi plethu ynddo. Wedi ei chynhyrchu gan boom Cymru, a'i chyfarwyddo gan Eryl Huw, dyma esiampl o grefft Gymraeg, wedi'i beintio gan Caryl Parry Jones, a Non Parry. Mae un peth yn sicr, sef anghofia i fyth y ffilm hon.

Erin's winning review of The Hunger Games

Dyma ffilm ag iddi linyn storiol cryf. Ffilm antur, llawn cyffro gyda themâu amrywiol megis tristwch, cariad a cholled; ffilm sy'n siŵr o wneud i chi ryfeddu at greulondeb dyn a'ch cadw ar flaen eich sedd.

Lleolwyd y cyfan yn y dyfodol yn Panem (gogledd America heddiw), gwlad sydd wedi'i rhannu i 12 Ardal ynghyd â'r Capital - y pwysicaf a'r cryfaf. Y Capital sy'n rheoli. Yn flynyddol, dewisa'r holl Ardaloedd ddau ymgeisydd - bachgen a merch, 11-18 oed i'w cynrychioli mewn cystadleuaeth hyd at farwolaeth.

I'r Capital adloniant yw'r cyfan ond i'r Ardaloedd artaith, wrth iddynt weld 24 o'u plant yn brwydro hyd at angau. Sail y gemau yw cofio am wrthryfel aflwyddiannus yr Ardaloedd yn erbyn y Capital 74 mlynedd ynghynt. Mae'n fodd i'r Capital hefyd gosbi, dial a chadw trefn a dibyniaeth yr Ardaloedd arnynt, ac yn bennaf oll, cynnig adloniant i'w trigolion. 

Katniss Everdeen, a bortreadir gan Jennifer Lawrence, yw seren y ffilm. Daw o Ardal 12, yr ardal dlotaf, a llwydda i bortreadu Katniss fel cymeriad cryf; heliwr bwa saeth penigamp sy'n llawn cariad at ei theulu a'i ffrindiau. Pan ddewisir ei chwaer Primrose i gynrychioli'r Ardal, gwirfoddola Katniss yn ei lle. Dyma olygfa emosiynol, yn cyfleu anobaith ac anghyfiawnder, sy'n sicr o gyffwrdd â phawb.

Portreadir Arlywydd Snow, arweinydd unbeniaethol Panem, yn wych gan Donald Sutherland, a'i agwedd yn cael ei chrynhoi gan y ddeialog - 'you screwed us, so we'll screw you'. Ceir perfformiadau meistrolgar yn enwedig gan Stanley Tucci fel y cyflwynydd teledu nos Sadwrnaidd, Caesar Flickerman, syn adlewyrchiad o holl greulondeb ffiaidd y Capital, a chan Woody Harrelston, Haymitch, cyn enillydd Ardal 12, sydd wedi troin alcoholig llawn anobaith yn sgil y gemau. 

Yng nghanol y dial a'r ymladd, mae cariad yn rhan allweddol a theimlwn ddatblygiad perthynas Katniss a Peeta Mellark (Josh Huterson) y bachgen sy'n cynrychioli Ardal 12 yn yr olygfa yn yr ogof. Golygfa arwyddocaol arall sy'n dangos undod a nerth yw'r olygfa ar y diwedd pan benderfyna Katniss a Peeta fwyta'r mwyar gwenwynig fel nad yw'r Capital yn cael y pleser o weld enillydd.

You may also be interested in...

Viewing 4 of 4 related items.

Into Film Clubs

Into Film Clubs

Find out everything you need to know about starting an Into Film Club.

News details

Want to write for us?

Get in touch with your article ideas for the News and Views section.