Cinemas that Made Me: Pauline Williams from Off Y Grid, North Wales

30 Jul 2020 in Cinemas That Made Me

6 mins
Off y Grid - Screening of 'Gwen'
Off y Grid - Screening of 'Gwen'

With many cinemas still closed due to COVID-19, we're continuing to celebrate independent venues and exhibitors across the UK in our series Cinemas that Made Me. Below we spotlight Pauline Williams from Off y Grid (Off the Grid), a multi-venue cinema project supported by Film Hub Wales, that aims to reduce isolation and increase engagement with British and independent film.

The Off y Grid project connects a collection of venues across North Wales, catering to rural audiences and celebrating a sense of place and heritage. They provide seasonal programming, with the venues working together to attract audiences. Project Manager Pauline Williams explains how this great collaborative effort benefits audiences and venues across North Wales, and reminisces about the early cinema experiences that continue to inspire her work today.

What does Off y Grid offer audiences?

More people. More films. More spaces. That's the aim of the Off y Grid (OYG) project. OYG coordinates a unique partnership between seven venues in North Wales that work together in order to promote independent films, British and world films to audiences in rural areas. OYG also offers an array of classic films as well as celebrating Wales' heritage through film archives.

The seven centres - CellB, Galeri, Pontio, Neuadd Dwyfor, Neuadd Ogwen, Tape Community Music & Film and Theatr y Ddraig - offer different experiences in terms of their location and spaces but share the same mindset with Welsh language culture, heritage and accessibility being central to the provision. By collaborating, we can offer more challenging films to a wider audience. By sharing ideas, we can create new cinematic experiences in the area.

Funded by Film Hub Wales, the project increases activities across North Wales in areas that often suffer from a lack of funding and a lack of artistic events. Our events forge links with the community and offer an artistic provision, encouraging and broadening horizons through film. As well as showing films we offer extra activities (like Q&A sessions) and we coordinate with film festivals and cinematic events in Wales and beyond.

We collaborate with many regular partners, but we are also ready to broaden our horizons with new partners in order to promote films. Recently we have been arranging a pop-up cinema to local communities with the aim of expanding our provision in this field as well as continuing to develop an audience of all ages in the area.

What was your first job in the film industry, and how did you end up managing the Off y Grid project?

After starting my career at the BBC in Cardiff and being trained to work on drama and television series, I moved on to work freelance before joining Gaucho as a producer and collaborating with the director Endaf Emlyn. The production company was a key contributor in the Welsh film industry, and I was responsible for the production of such successful films as Un Nos OlaGadael Lenin, and Y Mapiwr as well as individual dramas and series for television.

It's my love for film and the urge to share that enthusiasm that drives my energy on the OYG project.

Did film and the cinema have an important impact on you earlier in life?

As a child, attending the weekly film club on Saturday mornings at the Majestic in Caernarfon was a magical experience. There was nothing better than waiting in the auditorium for the lights to go down slowly and the curtain to be fully opened to reveal a giant screen. Being in that darkness feeling as if in another world was such a memorable experience. I remember going with my mother to see Summer Holiday and the colours blinding my eyes. But more than that was the feeling that was stirred inside me by such powerful films.

Later I would regularly go the Coliseum in Porthmadog and Forum in Blaenau Ffestiniog (unfortunately none of these cinemas exist now). Nothing can compare to being partly in darkness and being whisked away to another world. There are no limits to the imagination. Cinema's influence on my early years was most definitely key to my career choices.

How have those venues affected how you work today?

The experiences I had watching films on the big screen and losing myself in another world in local, community cinemas inspires me to offer similar experiences to today's audiences. Going to the cinema was a regular, affordable experience and the programming was varied in such a way that meant that audiences could enjoy all types of films, and all on their doorstep. 

Watching a movie on the big screen is a magical, enchanting experience. Being part of an audience that experiences a common emotion is an inclusive, mystical feeling. A film can make us marvel. It offers a key to other worlds. It evokes emotions. It is inclusive and transformative.

While Off y Grid venues have been closed due to COVID-19, have you begun any new initiatives to reach audiences at home?

CellB have been working assiduously to maintain and promote Gwallgofiaid (a not-for-profit that provides training for young people) by arranging online sessions with Rhys Ifans as a mentor for a short film making project.

Gyda sawl sinema dal ar gau oherwydd COVID-19, ry'n ni'n parhau i ddathlu lleoliadau annibynnol ar draws y DU yn ein cyfres 'Sinemau ein stori'. Dyma gyfweliad arbennig gyda Pauline Williams, Off y Grid, am y prosiect aml-leoliad sydd wedi'i gefnogi gan Canolfan Ffilm Cymru ac sy'n anelu i ddod a chymunedau ynghyd i wylio ffilmiau annibynnol Prydeinig.

Mae Off y Grid yn brosiect sy'n gweld lleoliadau yn cyd-weithio ar daws Gogledd Cymru er mwyn darparu gwasanaeth gymunedol i gynulleidfaoedd ardaloedd gwledig a dathlu treftadaeth leol. Mae'n nhw'n gweithio ar y cyd i ddarparu rhaglenni tymhorol fel bod modd denu cynulleidfa ehangach ar draws yr ardal. Dyma Pauline Williams, Rheolwr y Prosiect, yn egluro sut y mae'n nhw'n cyd-weithio er mwyn gwella'r profiad i'r gynulleidfa ac er mwyn gallu rhannu arbenigedd ar draws y sinemau, mae hefyd yn son am ei phrofiadau cyntaf hi o'r sinema ac sut y mae'r profiadau hyn yn dylanwadu ar ei gwaith heddi.

Beth mae Off y Grid yn ei gynnig i'r gynulleidfa?

Mwy o bobol. Mwy o ffilmiau. Mwy o lefydd. Dyna ydi amcan prosiect Off Y Grid (OYG). Mae OYG yn cydlynnu partneriaeth unigryw rhwng saith canolfan yng Ngogledd Cymru sy'n gweithio ar y cyd i hyrwyddo ffilmiau annibynnol, Prydeinig a ffilmiau byd i gynulleidfaoedd mewn ardal wledig. Mae OYg hefyd yn cynnig arlwy o ffilmiau clasurol cyfarwydd yn ogystal â dathlu treftadaeth Cymru trwy ffilmiau archif. 

Mae'r 7 canolfan - CellB, Galeri, Pontio, Neuadd Dwyfor, Neuadd Ogwen, Tape Community Music & Film a Theatr y Ddraig - yn cynnig profiadau gwahanol o ran gofod a lleoliad ond yn rhannu'r un meddylfryd gyda'r diwylliant Cymreig, etifeddiaeth a hygyrchedd yn ganolig i'r arlwy. Wrth gyd-weithio gellir hyrwyddo ffilmiau mwy heriol i gynulleidfa ehangach. Wrth rannu syniadau ceir cyfle i greu profidadau sinema newydd yn yr ardal. 

Wedi ei ariannu gan Film Hub Wales, mae'r prosiect yn cynyddu gweithgareddau ar draws Gogledd Cymru mewn ardaloedd sy'n aml yn dioddef o ddiffyg nawdd a digwyddiadau celfyddydol. Mae'n digwyddiadau yn cysylltu â'r gymuned ac yn cynnig darpariaeth gelfyddydol, yn annog trafodaeth ac yn ehangu gorwelion trwy gyfrwng ffilm. Yn ogystal â dangos ffilmiau rydym yn cyflwyno gweithgareddau ychwanegol (fel sesiynnau holi ac ateb) ac yn cydlynnu gyda gwyliau ffilmiau a digwyddiadau sinematig yng Nghymru a thu hwnt. 

Rydym yn cyd-weithio gyda nifer o bartneriaid rheolaidd ond yn barod i ehangu'n gorwelion gyda phartneriaid newydd er mwyn hyrwyddo ffilm. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn cynnig sinema pop-up i gymunedau lleol a'r bwriad yw ehangu ar ein darpariaeth yn y maes yma yn ogystal â pharhau i ddatblygu cynulleidfa o bob oedran yn yr ardal.

Beth oedd eich swydd gyntaf? Sut arweiniodd hyn at Off y Grid?

Ar ôl cychwyn gyrfa yn y BBC Caerdydd a chael hyfforddiant yn gweithio ar ddramau a chyfresi teledu bum yn gweithio'n llawrydd nes i mi ymuno fel Cynhyrchydd â chwmni Gaucho a chyd-weithio gyda'r cyfarwyddwr Endaf Emlyn. Bu'r cwmni'n gyfrannwr allweddol yn y byd ffilm yng Nghymru ac roeddwn yn gyfrifol am gynhyrchu'r ffilmiau arobryn Un Nos OlaGadael Lenin, Y Mapiwr yn ogystal â dramau unigol a chyfresi drama ar gyfer teledu. 

Cariad at ffilm a'r awydd i rannu'r brwdfrydedd yna a chynnig profiadau sinematig unigryw i gynulleidfaoedd hen a newydd sy'n fy nghyrru i gyd-weithio ar OYG.

Ydy ffilm a mynd i'r sinema wedi bod yn ro'ch bywyd erioed?

Pan yn blentyn roedd cael mynd i'r Majestic yng Nghaernarfon i glwb ffilm ar fore Sadwrn yn brofiad rhithiol. Doedd dim byd gwell nag ista'n y gynulleidfa yn disgwyl yn eiddgar i'r golau ddiffod yn ara deg a'r llenni i agor led y pen i arddangos sgrîn enfawr. Roedd bod yn y tywyllwch mewn byd arall yn brofiad mor gofiadwy. Dwi'n cofio mynd efo fy mam i weld Summer Holiday a'r llliwiau yn dallu'r llgadau. Ond yn fwy na hynny roedd y teimladau a ysgogwyd gan y ffilmiau mor bwerus.

Yn ddiweddarach roeddwn yn mynychu'r Coliseum yn Port a'r Forum yn Blaenau yn rheolaidd. (Yn anffodus does na'r un o'r sinemau yma'n bodoli bellach) Does dim byd mwy cyfareddol na bod yn yr hanner gwyll yn cael y'ch tywys i fyd arall. Does dim ffiniau i ddychymyg. Yn sicr roedd dylanwad y sinema yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol yn fy newis o yrfa.

Sut y mae gweithio a'r lleoliadau san sylw wedi dylanwadu ar eich gwaith chi heddi?

Mae'r profiadau ges i o wylio ffilm ar y sgrîn fawr ac ymgolli mewn byd arall yn y sinemau cymunedol, lleol yma yn f'ysbrydoli i gynnig profiadau tebyg i gynulleidfaoedd heddiw. Roedd mynd i'r sinema yn brofiad rheolaidd, fforddadwy a'r rhaglen yn amrywiol felly roedd cynulleidfa'n derbyn a gwerthfawrogi pob math o ffilm- a hynny ar stepan drws. Mae gwylio ffilm ar sgrîn fawr yn brofiad hudolus, rhithiol. Mae bod yn rhan o gynulleidfa sy'n cyd-rannu emosiwn yn deimlad cynhwysol, cyfrin. Mae ffilm yn gallu cyfareddu. Mae'n cynnig allwedd i fydoedd eraill. Mae'n ysgogi emosiynnau. Mae'n gynhwysol ac yn drawsnewidiol.

Gan bod sinemau ar gau oherwydd COVID-19, ydych chi wedi dechrau unrhyw fentrau newydd fel Off y Grid?

Mae CellB wedi bod yn gweithio'n rheolaidd i gynnal a hybu Gwallgofiaid trwy drefnu sesiynnau ar lein gyda Rhys Ifans fel mentor i brosiect gwneud ffilm fer.

This Article is part of: Cinemas That Made Me

A series celebrating cinemas, venues and exhibitors across the UK.

View other Articles in this column

You may also be interested in...

Viewing 4 of 4 related items.

Into Film Clubs

Into Film Clubs

Find out everything you need to know about starting an Into Film Club.

News details

Want to write for us?

Get in touch with your article ideas for the News and Views section.