Mae Into Film Cymru yn ysbrydoli ac ysgogi athrawon i integreiddio dysgu drwy ac am ffilm fel rhan o'u darpariaeth Cwricwlwm i Gymru. Mae'n hethos a'n gweledigaeth yn cyd-weddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru drwy roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau penodol i'r maes, i gymryd rhan mewn cyfleoedd lle maen nhw rhoi'r sgiliau hynny ar waith, ac yn eu cefnogi i fireinio a datblygu sgiliau bywyd.

Mae ysgolion ar draws Cymru'n defnyddio ffilm ar draws y cwricwlwm mewn dulliau creadigol ac arloesol, gydag addysgwyr a dysgwyr yn archwilio, ymateb ac yn creu ffilm ar amrywiaeth eang o bynciau a themâu.

Manteisiwch ar ein gwasanaeth arbennig i Gymru, ein harlwy o adnoddau addysg, ein catalog ffilm gyfoethog, ein sesiynau hyfforddi i athrawon, a'n darpariaeth gyffrous o weithdai rhyngweithiol.

I wybod mwy, cysylltwch â ni  cardiff@intofilm.org.

YAC Members 2019

Adnoddau

Ewch ati i edrych ar yr adnoddau sy'n cyd-fynd ag anghenion Cwricwlwm i Gymru.

Rhys Ifans with YAC members

Ffilmiau

Dysgwch fwy am ein ffilmiau am Gymru neu gan Gymry.

VFX Tour Wales

Profiadau

Dysgwch fwy am ein gweithai a digwyddiadau a ddarperir ar draws Cymru.

Williamstown ASD Learning Support Class, Rhondda

Astudiaethau Achos

Cyfle i gael syniadau gan y rhai sydd eisoes yn defnyddio ffilm.