Mae Into Film yn awyddus i gefnogi ac arfogi Athrawon wrth iddyn nhw fynd ati i gyflwyno ffilm a chyfryngau digidol i'w darpariaeth Celfyddydau Mynegiannol ac ar draws meysydd eraill o'r cwricwlwm.

Gall addysgwyr o ar draws Cymru fanteisio ar ein gwasanaeth drwy ddilyn hyfforddiant arlein, neu wrth drefnu sesiwn ar gyfer yr ysgol neu glwstwr o ysgolion. Ar ben hyn, ry'n ni'n darparu sesiwn ar gyfer unrhyw ysgol dan y thema ‘Ffilm o fewn Cwricwlwm i Gymru' lle ry'n ni'n rhoi cyngor ac arweiniad ar integreiddio ffilm. Gellir cyflwyno arlein mewn cyfarfod staff neu ar ddiwrnod hyfforddi. 

I wybod mwy ac i drafod ymhellach, ebostiwch cardiff@intofilm.org.