Actor and Into Film Ambassador Matthew Rhys on the Welsh film industry

16 Apr 2018

10 mins
Into Film's Welsh Ambassador Matthew Rhys filming with Stephen Spielberg
Into Film's Welsh Ambassador Matthew Rhys filming with Stephen Spielberg

We recently asked Welsh actor and Into Film Ambassador Matthew Rhys to write a piece on his thoughts on the state and future of the Welsh film industry. He came back with some amazing insights that are well worth checking out below.

Matthew Rhys headshot

Matthew Rhys

Actor and Into Film Ambassador

Matthew Rhys is an acclaimed Welsh actor of film and television, having starred in films such as PatagoniaThe Edge of Love and The Post, and has been Into Film Ambassador for Wales since 2015.

This piece was originally published in the Western Mail (Wales) on 14/03/18 

Growing up in Whitchurch, Cardiff, in the 80s and 90s, the likes of Richard Burton and Anthony Hopkins were my inspiration. Seeing them up there on screen made me believe that my own ludicrous hopes could one day become real. They were proof that it was possible for people from Wales to get a foothold in the industry. 

In recent years, I've started to think about the ways I too can help the next generation fulfill their potential and find the confidence to attempt a film career. I want to play my part in making their hopes and dreams come true.

Nothing gives me greater pleasure than to see my fellow countrymen and women do well in this industry that has served me so well. The Awards season is one indication of how well we are doing in inspiring the next generation.

The future is certainly getting brighter. In February, Welsh-Zambian director Rungano Nyoni won a much-coveted BAFTA for her outstanding debut, I Am Not A Witch, which tells the story of an eight-year-old Zambian girl. The warm ‘diolch' [thanks] thrown into her acceptance speech made us all cheer.

But we need more Runganos. That's the primary reason why I'm an ambassador for Into Film Cymru. I want to promote this important charity so they may provide the support schools need to nurture our home-grown talent.

Obviously, I feel incredibly fortunate to be making my living as an actor. After all, it is one of the most overcrowded professions in the world, requiring as much luck as you have talent. Indeed, after The Graduate I didn't work for a year and it was touch and go whether I'd carry on. During that difficult time, I must confess I considered other professions. 

None of which, interestingly, would have seen me stay within the industry itself. While I had an excellent education at Ysgol Melin Gruffydd and Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, with lots of drama lessons and school performances, I was given little information or advice about the potential job opportunities behind the camera. 

Thankfully, I know this is changing. As a proud Welshman, now living in New York, it is gratifying to know that the Welsh Government is one of the few governments worldwide recognising film as an integral part of its new curriculum, Successful Futures.

There's now a deliberate policy to include film in Welsh classrooms. Not only as an interactive medium to dramatically improve literacy, numeracy and digital literacy levels, but to help students learn about the multi-faceted elements of filmmaking, and open their eyes to the career opportunities on offer. The new curriculum, as far as I can tell, has the potential to be the equivalent of Welsh rugby's fly-half production line, found deep in the Valleys. 

Providing young people with a rounded education of this kind should not be underestimated. It will absolutely equip them to work in what is now a £1bn industry in Wales and the fastest growing sector in the country. 

The Welsh Government seems to be joining the dots, investing in the creative industries while simultaneously recognising that our schools need to feed this growing sector if it is to become sustainable.

This is eminently sensible. First, it plays to our strengths as a nation we're a creative lot, with strong choral and Eisteddfod traditions. Second, there's more to the industry than those archetypal sorts who like to dress up for a living. A whole other world exists and the industry will create a staggering range of jobs.

Good filmmaking is very much an ensemble piece. The great Orson Welles once said: ‘A writer needs a pen, an artist needs a brush, but a filmmaker needs an army'. Never a truer word spoken. 

As an actor and director, it would be impossible for me to do my work without the lesser-known roles, like a carpenter, make-up artist, or even accountant. And there are plenty of Welsh role models behind the camera too. 

Lynwen Brennan, originally from Penally, is the general manager of Lucasfilm in San Francisco, responsible for the Star Wars and Indiana Jones franchises. She's a powerful woman and, incidentally, the person who may well be responsible for the appearance of our beloved Welsh flag in the blockbuster Black Panther.

Similarly, Leonardo DiCaprio's go-to make-up artist is none other than Cardiff raised Siân Grigg, an Oscar nominated and BAFTA winning make-up artist known for her work in Saving Private RyanThe Departed and The Revenant.

We need to celebrate these shining lights as much as any actor. To me, this is how we can help young people see the film industry as a viable career opportunity, regardless of their skills and interests. 

Thanks to Into Film Cymru, and the new curriculum, schools are in a position to make some headway in this regard, by establishing film clubs, using the charity's resources to teach production processes, and making the most of their free film festival in November.

Some of the outcomes have been stunning. Last year, children from Ysgol Cefn Coch in Gwynedd were able to make an award-winning film, Ysbryd (Ghost), by only using a smartphone, and in March students from Coleg Sir Gar in Llanelli found themselves taking home the Into Film Award for Into Film Club of the Year (13 and Over) at the prestigious Into Film Awards at the BFI Southbank, London. 

This is an exciting time for film in Wales, where investment and education seem to be dovetailing perfectly to create the infrastructure we need. I believe a thriving film industry in Wales is there for the taking. But each of us need to play our part.

Actor a Llysgennad Into Film, Matthew Rhys yn trafod diwydiant ffilm Cymru

Wrth i mi dyfu i fyny yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd yn yr 80au a'r 90au, pobl fel Richard Burton ac Anthony Hopkins oedd fy ysbrydoliaeth. Roedd eu gweld ar y sgrin yn gwneud imi gredu y gallai fy ngobeithion gwallgof i ddod yn wir ryw ddiwrnod. Roedden nhw'n brawf ei bod hi'n bosibl i bobl o Gymru ennill eu plwyf yn y diwydiant.

Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn meddwl am y ffyrdd y gallaf innau helpu'r genhedlaeth nesaf i gyflawni eu potensial ac i gael yr hyder i anelu am yrfa o fewn ffilm. Rydw i am chwarae fy rhan i wireddu eu gobeithion a'u breuddwydion.

Does dim yn rhoi mwy o bleser i mi na gweld fy nghyd-Gymry yn gwneud yn dda yn y diwydiant yma sydd wedi bod mor dda i mi. Mae Tymor y Gwobrau yn un arwydd o ba mor dda rydyn ni'n ei wneud yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

Mae'r dyfodol yn bendant yn dod yn fwy llachar. Fis Chwefror, enillodd y cyfarwyddwr Cymreig-Zambiaidd, Rungano Nyoni, BAFTA, a fawr chwenychir, am ei début eithriadol, I Am Not A Witch, sy'n adrodd hanes merch fach wyth oed o Zambia. Roedd y ‘diolch' twymgalon a daflodd i mewn i'w haraith dderbyn wedi gwneud i bob un ohonom floeddio cymeradwyaeth.

Ond mae angen rhagor o Runganos arnom ni. Dyma'r prif reswm pam rwyf yn llysgennad dros Into Film Cymru, cangen o'r brif elusen addysg yn y DU sy'n gosod ffilm yn ganolog o fewn addysg. Rydw i am hyrwyddo'r elusen bwysig hon er mwyn iddyn nhw allu darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion i feithrin ein doniau cartref. 

Yn amlwg, rwy'n teimlo'n anhygoel o ffodus i allu ennill fy mywoliaeth fel actor. Wedi'r cyfan, mae'n un o'r proffesiynau mwyaf gorlawn yn y byd sy'n galw am yr un mesur o lwc ag o dalent. Yn wir, ar ôl The Graduate wnes i ddim gweithio am flwyddyn a bu ond y dim i mi roi'r gorau iddi'n llwyr. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rhaid imi gyfaddef fy mod wedi ystyried proffesiynau eraill.

Yn ddiddorol, fyddai'r un o'r proffesiynau hynny wedi golygu fy mod yn aros o fewn y diwydiant ei hun. Er i mi dderbyn addysg ragorol yn Ysgol Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, gyda llawer o wersi drama a pherfformiadau ysgol, prin oedd yr wybodaeth neu'r cyngor a roddwyd am gyfleoedd swydd yr ochr arall i'r camerâu.

Yn ffodus, rwy'n gwybod bod hyn yn newid. Fel Cymro balch sydd bellach yn byw yn Efrog Newydd, mae'n bleser clywed mai Llywodraeth Cymru yw un o'r ychydig lywodraethau ar draws y byd sy'n cydnabod ffilm fel rhan annatod o'i chwricwlwm newydd, Dyfodol Llwyddiannus.

Erbyn hyn mae polisi bwriadol i gynnwys ffilm mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Nid yn unig fel cyfrwng rhyngweithiol i wella'n ddramatig lefelau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, ond hefyd i helpu myfyrwyr i ddysgu am elfennau amlochrog gwneud ffilmiau, ac i agor eu llygaid i'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Cyn belled ag y gwelaf i, mae gan y cwricwlwm newydd y potensial i ymdebygu i linell cynhyrchu maswyr rygbi Cymru oedd i'w chanfod yn nyfnder y Cymoedd.

Mae darparu addysg gyflawn fel hyn i bobl ifanc yn rhywbeth na ddylen ni ei gymryd yn ysgafn. Bydd yn eu harfogi i weithio mewn diwydiant sydd bellach yn werth £1bn yng Nghymru a dyma'r sector sy'n cynyddu gyflymaf yn y wlad.

Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n ddoeth gan fuddsoddi yn y diwydiannau creadigol tra ar yr un pryd yn sylweddoli bod angen i'n hysgolion fwydo'r sector hwn sy'n tyfu os yw am fod yn gynaliadwy. 

Mae hyn yn beth call dros ben. I ddechrau, mae'n defnyddio ein cryfderau fel cenedl rydyn ni'n griw creadigol, gyda thraddodiadau corawl ac Eisteddfodol cryf. Yn ail, mae mwy i'r diwydiant na'r cymeriadau nodweddiadol sy'n hoffi gwisgo i fyny i ennill bywoliaeth. Mae byd cyfan arall yn bodoli a bydd y diwydiant yn creu amrywiaeth anhygoel o swyddi.

Mae creu ffilmiau da yn waith ensemble. Yng ngeiriau'r rhyfeddol Orson Welles: "Mae angen pin ysgrifennu ar awdur, mae angen brwsh ar arlunydd, ond mae angen byddin ar wneuthurwr ffilmiau". Gwir pob gair. 

Fel actor a chyfarwyddwr, byddai'n amhosibl i mi wneud fy ngwaith heb y swyddi llai adnabyddus fel saer, artist coluro neu hyd yn oed gyfrifydd. Ac mae digon o rolau model o Gymru yr ochr arall i'r camera hefyd.

Lynwen Brennan, sy'n dod o Benalun yn wreiddiol, yw rheolwr cyffredinol Lucasfilm yn San Francisco, yn gyfrifol am y ffilmiau Star Wars ac Indiana Jones. Mae hi'n fenyw bwerus, ac o bosib hi oedd yn gyfrifol am ymddangosiad ein hannwyl faner Gymreig yn y ffilm lwyddiannus, Black Panther

Yn yr un modd, dewis golurydd Leonardo di Caprio yw Siân Grigg, a fagwyd yng Nghaerdydd. Mae hi wedi cael ei henwebu am Oscar ac wedi ennill gwobr BAFTA, ac mae hi'n adnabyddus am ei gwaith yn Saving Private Ryan, The Departed and The Revenant.

Mae angen i ni ddathlu'r talent arbennig hyn gymaint ag unrhyw actor. I mi, dyma sut y gallwn helpu pobl ifanc i ystyried y diwydiant ffilm fel cyfle gwirioneddol am yrfa, waeth beth yw eu sgiliau a'u diddordebau.

Diolch i Into Film Cymru a'r cwricwlwm newydd, mae ysgolion mewn sefyllfa i fraenaru'r tir yn hyn o beth drwy sefydlu clybiau ffilm, defnyddio adnoddau'r elusen i addysgu prosesau cynhyrchu, a gwneud y gorau o'u gŵyl ffilmiau rhad ac am ddim ym mis Tachwedd. 

Mae rhai o'r deilliannau wedi bod yn rhagorol. Y llynedd llwyddodd plant o Ysgol Cefn Coch yng Ngwynedd i wneud ffilm arobryn, Ysbryd, gan ddefnyddio ffôn clyfar yn unig a fis Mawrth enillodd myfyrwyr o Goleg Sir Gâr yn Llanelli Wobr Into Film am Glwb into Ffilm y Flwyddyn yn seremoni fawreddog Into Film Awards yn y Southbank, Llundain.

Mae'n gyfnod cyffrous ar gyfer ffilm yng Nghymru, lle mae buddsoddi ac addysg i'w gweld yn priodi'n berffaith i greu'r isadeiledd sydd ei angen arnom. Credaf fod diwydiant ffilm ffyniannus yng Nghymru yn cynnig ei hun i ni ar blât. Ond mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan. 

You may also be interested in...

Viewing 4 of 4 related items.

Into Film Clubs

Into Film Clubs

Find out everything you need to know about starting an Into Film Club.

News details

Want to write for us?

Get in touch with your article ideas for the News and Views section.